Lincoln 1–2 Wrecsam

Mae Wrecsam yn aros ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square ar ôl dod yn ôl i guro Lincoln yn Stadiwm y Deuddegfed Dydd Sincil Bank nos Fawrth.

Sgoriodd Chris Westwood i’w rwyd ei hun i roi’r tîm cartref ar y blaen ar yr egwyl ond tarodd Wrecsam yn ôl ddwywaith mewn pum munud toc wedi’r awr, Brett Ormerod yn unioni’r sgôr i ddechrau ac yna Dele Adebola’n ennill y gêm i’r Dreigiau.

Roedd talcen caled yn wynebu’r ymwelwyr yn dilyn gôl anffodus Westwood i’w rwyd ei hun ddeg munud cyn yr egwyl ond ymatebodd y Cymry’n dda yn yr ail gyfnod.

Roeddynt yn gyfartal toc wedi’r awr pan rwydodd Ormerod ar ôl i Joe Clarke ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi.

Ac roedd tîm Andy Morrell ar y blaen bum munud yn ddiweddarach diolch i gamgymeriad gan gôl-geidwad Lincoln, Paul Farman. Disgynnodd cliriad gwael y gŵr rhwng y pyst i Adebola a rhwydodd yntau’r gôl fuddugol.

Mae’r fuddugoliaeth honno yn cadw Wrecsam ar frig y Gyngres, gyda gwahaniaeth goliau yn eu cadw uwch ben Mansfield, wedi iddynt hwy guro Grimsby. Mae Casnewydd bellach bum pwynt y tu ôl i’r Gogleddwyr ond wedi chwarae tair yn llai.

.

Lincoln

Tîm: Farman, Diagne, Boyce, Garner (Gray 72′), Miller, Jordan, Power, Jones (Smith 56′), Fofana, Taylor, Hobson (Dali 63′)

Gôl: Westwood [g.e.h.] 34’

Cardiau Melyn: Power 36’, Diagne 45’

.

Wrecsam

Tîm: Maxwell, Wright, Ashton (Little 46′), Westwood, Artell (Walker 46′), Clarke, Hunt, Thornton, Wright, Ormerod, Adebola

Goliau: Ormerod 61’, Adebola 66’

Cardiau Melyn: Thornton 36’, Little 56’, Ormerod 85’

.

Torf: 1,379