Mae Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe wedi derbyn £40,000 i sefydlu arddangosfa i nodi canmlwyddiant geni’r bardd y flwyddyn nesaf.
Bydd y casgliad yn gyfuniad o atgofion pobol oedd yn adnabod y bardd.
Cafodd Cyngor Abertawe ganiatâd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i greu’r arddangosfa sy’n canolbwyntio ar fywyd a gwaith Dylan Thomas, ac mae disgwyl iddi ddenu pobol o bob cwr o’r byd i Abertawe.
Mae’r Ganolfan, sy’n gartref i’r casgliad mwyaf yn y byd o waith Dylan Thomas, wedi derbyn £40,000 yng ngham cyntaf y broses ariannu, ond dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe y gallai’r ffigwr godi i £800,000 erbyn diwedd y prosiect.
Ymhlith y casgliad, mae darnau o lawysgrifau, gwaith celf, ffotograffiau, llyfrau a chlipiau sain gwreiddiol.
Ar hyn o bryd, 140 allan o 950 o ddarnau sy’n cael eu harddangos, ond bydd y nawdd diweddaraf yn sicrhau bod modd arddangos gweddill y casgliad.
Wyres y bardd
Bydd cyfle i ysgolion a grwpiau cymunedol weld y gwaith yn ystod teithiau yn y Ganolfan, ac fe fydd Swyddog Addysg a Swyddog Cyswllt yn cael eu penodi i weithio ar y safle o dan arweiniad wyres y bardd, Hannah Ellis.
Dywedodd Hannah Ellis: “Rwy wrth fy modd fod Canolfan Dylan Thomas wedi derbyn nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
“Bydd y cyfle yma yn eu galluogi nhw i gyflawni eu gweledigaeth o foderneiddio’u harddangosfa er mwyn sicrhau ei bod yn esblygu’n barhaus, yn rhyngweithiol ac ar gael mewn fformat digidol.
“Bydd hefyd yn eu helpu nhw i gysylltu gyda chymunedau a sefydliadau lleol, yn ogystal â chysylltu gydag amryw o gynulleidfaoedd o wahanol oedrannau a chefndiroedd.”
Twristiaeth Dylan Thomas
Dywedodd Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Jennifer Stewart: “Mae Dylan Thomas yn un o’r bobol bwysicaf ym myd diwylliant Cymru, ac yn fyd-eang. Mae e’n destun balchder, statws ac ysbrydoliaeth i’r gymuned ac mae yna wir alw gan bobol leol i gymryd rhan yn y ganolfan.
“Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau sy’n helpu i hybu economi leol Cymru. O amgylch hanner canmlwyddiant marw Dylan yn 2003, cafodd ei amcangyfrif fod twristiaeth oherwydd Dylan Thomas yn denu £3.6 miliwn i’r gymuned leol bob blwyddyn ac fe fydd y prosiect hwn yn ganolbwynt i ddathliadau’r canmlwyddiant.”