Mae Cyngor Abertawe a’r Elyrch wedi dod i gytundeb er mwyn i’r clwb pêl-droed gael prynu’r tir lle mae eu Canolfan Ragoriaeth.
Dechreuodd y gwaith o ailwampio’r safle ar Heol Beaufort eisoes.
Mae’r safle’n gartref i nifer o gaeau a chyfleusterau hyfforddi, ac mae’r cytundeb diweddaraf hwn yn golygu y bydd modd i’r clwb ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol.
Ond mae’n golygu y bydd yn rhaid i’r clybiau lleol oedd yn chwarae ar y safle ddod o hyd i gartref newydd.
Bydd yr Elyrch yn ariannu cynllun i wella caeau chwarae Cwm Level, Ysgol Treforys a Pharc Heol Las er mwyn helpu clybiau pêl-droed a chriced lleol.
‘Adnodd amhrisiadwy’
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, David Phillips: “Bydd y ganolfan bêl-droed yn adnodd amhrisiadwy wrth helpu i gynnal pêl-droed o’r radd flaenaf yn Abertawe am nifer o flynyddoedd i ddod.
“Bydd y cyfleuster, sy’n enghraifft dda arall o weithio mewn partneriaeth, yn helpu i drawsnewid yr ardal.”
Ychwanegodd Cadeirydd y clwb, Huw Jenkins: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi caffael safle RTB Glandŵr.
“Mae’r cytundeb hwn unwaith eto yn amlygu’r bartneriaeth waith wych sy’n bodoli rhwng yr Elyrch a Chyngor Abertawe.”
‘Dinas falch’
Ychwanegodd: “Fyddai’r Elyrch ddim lle’r ydyn ni heddiw heb fod Stadiwm Liberty wedi’i adeiladu tua wyth mlynedd yn ôl ac mae’r ffaith fod y clwb yn gwneud cystal yn Uwch Gynghrair Barclays yn newyddion gwych i bawb.
“Rwy’n credu bod pawb bellach yn gallu gweld drostyn nhw eu hunain beth all tîm pêl-droed llwyddiannus a chyngor blaengar wneud gyda’i gilydd i helpu i hybu ein dinas falch i lefel nas gwelwyd o’r blaen.”