Ben Morgan
Ni fydd wythwr Lloegr, Ben Morgan yn chwarae yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, wedi iddo fethu a gwella o anaf i’w ffêr.

Roedd Morgan, a chwaraeodd i’r Scarlets am 3 blynedd, wedi ei anafu yn ystod y gêm yn erbyn yr Alban ar benwythnos cyntaf y Bencampwriaeth, ac roedd gobaith y byddai’n well i herio’r Eidal ddoe.

Ond, dywedodd hyfforddwr Lloegr, Stuart Lancaster y byddai Morgan yn aros gyda’i glwb y penwythnos nesaf, ac yn methu’r cyfle i ennill y gamp lawn.

“Bydd Ben yn aros yng Nghaerloyw yr wythnos hon.  Roedden ni’n gwybod y gall gymryd 6 i 8 wythnos i wella, a ni fydd yn barod mewn pryd.”

Gallai Morgan  fod wedi chwarae i Gymru, wedi iddo fyw yn y wlad am 3 blynedd, ond penderfynodd yn 2012 i chwarae i Loegr.

Gyda Morgan allan, bydd Lancaster yn gobeithio y bydd y blaenwyr Joe Launchbury, Geoff Parling a Courtney Lawes yn gwella o anafiadau i wynebu Cymru yng Nghaerdydd.

Ond mae newyddion da i Loegr, wrth i’r maswr Owen Farrell ddechrau hyfforddi eto, wedi  anaf i’w goes ei gadw allan o’r gêm dros y penwythnos.