Mae taith baton Gemau’r Gymanwlad wedi ei gyhoeddi heddiw ar gyfer Gemau Glasgow 2014.

Bydd y baton yn ymweld â phob cyfandir yn y byd ac yn teithio 190,000 km, gan dreulio saith niwrnod yng Nghymru.

Bydd y daith gyfan yn para 248 o ddiwrnodau ac yn ymweld â 71 o wledydd  a thiriogaethau’r Gymanwlad.

Bydd y baton yn dechrau ei daith ym Mhalas Buckingham ar 9 Hydref, pan fydd y Frenhines yn rhoi ei neges i’r Gymanwlad yn y baton.  Bydd yna’n teithio dros y byd, cyn dychwelyd ar gyfer agoriad swyddogol y Gemau yn Glasgow ar 23 Gorffennaf, 2014.

Tua diwedd y daith bydd y baton yn teithio drwy Gymru am wythnos, cyn treulio pythefnos yn Lloegr a 40 diwrnod yn yr Alban.

Heddiw mae’r Frenhines wedi methu mynd i wasanaeth yn Abaty Westminster i ddathlu’r Gymanwlad gan ei bod hi heb wella’n llwyr o salwch stumog.

Vanuatu a Sierra Leone

Bydd taith y baton yn para dros nifer o wyliau mawr, gan gynnwys y Nadolig, a fydd yn cael ei ddathlu yn Vanuatu yn y Môr Tawel, a nos galan, pan fydd y baton yn Sierra Leone.

Dywedodd yr Arglwydd Smith, Cadeirydd Glasgow 2014:

“I’r Alban a Glasgow mae taith y baton yn gyfle i roi’r ddinas a’r wlad yn sylw’r byd, gan greu cyfleoedd economaidd, diwylliannol ac addysgol.”

“Mae’n daith unigryw a fydd yn cynnig cyfleoedd masnachu a buddsoddi rhyngwladol, a bydd yn cysylltu Glasgow a’r Alban gyda’r Gymanwlad ac yn gwahodd y Gymanwlad yn ôl yma.”

“Dyma ein cyfle i fod ar lwyfan rhyngwladol, a rhannu ein negeseuon ewyllys da gyda’r Gymanwlad.”