Mae’r Sgarlets wedi cyhoeddi fod un o fachwyr Cymru wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r rhanbarth.

Daeth Ken Owens i’r cae’n eilydd yn y fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn, a dywed prif hyfforddwr y Sgarlets, Simon Easterby, ei bod hi’n “bwysig i gadw chwaraewr allweddol fel Ken er mwyn adeiladu’r garfan o’i amgylch.”

“Mae wedi ei fagu yn rygbi’r Sgarlets ac yn esiampl wych o sut mae’r llwybr datblygu yn gweithio – dod trwy’r academi i rygbi dynion ac yna i’r Sgarlets,” meddai Simon Easterby

“Mae’n chwarae gyda theyrngarwch i’w wreiddiau lleol a gyda chymeriad ac ysbryd y Sgarlets.”

Mae Owens, 26 oed, wedi chwarae 135 o weithiau dros y Sgarlets ac wedi cael 14 cap i Gymru.

Maswr ifanc yn gadael

Ond mae’r maswr 21 oed Owen Williams yn gadael y Sgarlets ar ddiwedd y tymor ac yn ymuno gyda Theigrod Caerlŷr.

Gyda Rhys Priestland wedi ei anafu mae Williams, o Ystradgynlais, wedi sefydlu ei hun dros yr wythnosau diwethaf fel y dewis cyntaf yn y crys sgarlad. Mae ar ei flwyddyn olaf ar gytundeb datblygu a dywed y rhanbarth fod y newydd amdano’n symud wedi dod yn ddisymwyth a heb rybudd.

Mae safle’r maswr yn un ble mae gan y Sgarlets lawer o opsiynau rhwng Priestland, Aled Thomas, Dan Newton a Jordan Williams, ac mae Steve Shingler yn dychwelyd i Lanelli o Wyddelod Llundain y tymor nesaf.