Ceri Sweeney
Mae clwb rygbi’r Gleision wedi cadarnhau y bydd y maswr Ceri Sweeney yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor, i ymuno â Chaerwysg.
Bydd Sweeney, 33, yn ymuno wedi iddo arwyddo cytundeb blwyddyn.
Mae Sweeney wedi bod yn rhan o dîm Caerdydd ers 2008, pan symudodd o’r Dreigiau, ac ers hynny mae wedi chwarae dros 100 o gemau i’r Gleision.
Llwyddodd i ennill y Cwpan EDF yn 2009 a Chwpan Amlin yn 2010 gyda Chaerdydd, ond nawr mae wedi dweud ei fod eisiau her newydd.
‘Atgofion da’
“Dwi wedi mwynhau fy amser hefo’r Gleision, maen nhw’n glwb gwych ac mae’r cefnogwyr wedi bod yn rhan fawr o hynny,” meddai Sweeney.
“Byddaf yn trysori llawer o atgofion da a ffrindiau o’r clwb, ond roeddwn i eisiau her newydd ar yr adeg yma yn fy ngyrfa, ac roedd hynny ar gael yng Nghaerwysg.”
Dyma fydd y tro cyntaf i’r maswr chwarae i glwb y tu allan i Gymru, ond dywedodd ei fod yn awyddus i brofi ei hun yng Nghynghrair Aviva.
“Dwi’n ymwybodol mai dyma’r tro cyntaf i mi chwarae y tu allan i Gymru, ond mae’r cyfle i brofi fy hun yn y Gynghrair Aviva yn rhywbeth dwi’n awyddus i wneud.”