Llwyddodd tîm rygbi merched Cymru i sicrhau buddugoliaeth i bob un o dimau Cymru yn yr Alban dros y penwythnos, wedi iddyn nhw guro o 13-0 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Daeth y fuddugoliaeth mewn tywydd rhewllyd yn stadiwm Scotstoun ddoe, wedi i’r timau dan-20 a’r dynion ennill dros y penwythnos. Mae’n gadael merched Cymru yn y pedwerydd safle, gyda 4 o bwyntiau.
Cic gosb gan Laura Prosser oedd yr unig sgôr yn yr hanner cyntaf, ond roedd dau gais yn hwyr yn yr ail hanner gan Charlie Murray a Sioned Harries yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Dywedodd yr hyfforddwr, Rhys Edwards: “Roedd canlyniad heddiw yn wych mewn tywydd garw iawn. Roedd y merched yn amyneddgar, a llwyddon nhw i orffen y job yn y diwedd.
“Chwaraeodd yr Alban yn dda iawn yn yr hanner cyntaf, a gwnaethon ni lawer o benderfyniadau gwael. Ond fe wnaeth y newidiadau yn yr egwyl wneud byd o wahaniaeth.”
Ni all y merched guro Iwerddon sydd ar frig tabl y Chwe Gwlad, ond gall buddugoliaeth yn erbyn Lloegr wythnos nesaf symud y Cymry i’r ail safle, ac uwchben y Saeson.