Ryan Jones
Bydd capten Cymru, Ryan Jones yn cael nifer o brofion meddygol dros y dyddiau nesaf, mewn gobaith o wella ar gyfer gem olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wythnos nesaf.
Aeth Jones oddi ar y cae ar ôl 48 munud yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn, wedi iddo anafu ei ysgwydd.
Gwelwyd y capten, sy’n 32 wythnos yma, gyda’i fraich mewn sling wedi’r gêm, ond dywedodd yr hyfforddwr, Rob Howley bod y tîm yn obeithiol y byddai’n gwella erbyn y finale yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.
“Mae o’n gwenu yn yr ystafell newid, sy’n arwydd da, a bydd rhaid i ni wneud penderfyniad pan gawn ni fwy o wybodaeth.”
Alun Wyn Jones yn gapten?
Yn y cyfamser, mae cyn-flaenasgellwr Cymru, Martin Williams wedi dweud nid Sam Warburton ddylai arwain y tîm, os na fydd Ryan Jones wedi gwella.
Honnodd mai rhoi’r gapteniaeth i’r clo profiadol, Alun Wyn Jones fyddai orau, er mwyn i Warburton gael canolbwyntio ar ei chwarae yn hytrach na’r pwysau o arwain y tîm.
“Mi fuaswn i’n gadael i Alun Wyn gapteinio wythnos nesaf os nad yw Ryan yn holliach,” meddai Williams.
“Byddai’n cymryd pwysau oddi ar Sam, a rhoi cyfle iddo fynd allan a chreu anhrefn yn y ryciau.”
“Mae Rob Howley wedi dweud bod Sam wedi cael amser caled yn ddiweddar. Gwell gadael i Sam ganolbwyntio ar ei gêm.”