Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru am roi hwb ariannol o £23,000 i gael cofeb yn Senghenydd.

Senghenydd oedd lleoliad y trychineb glofaol gwaethaf yn hanes Prydain pan laddwyd 440 o weithwyr, yn ddynion a bechgyn, ym 1913 yn dilyn ffrwydrad enfawr ym mhwll glo Universal.

Mae Grŵp Treftadaeth Cwm Aber yn datblygu cynlluniau i greu cofeb ger y safle.

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £26,000 ar gyfer y prosiect hwn drwy roi cyllid i Gyngor Caerffili. Mae’r rhodd ddiweddaraf hon yn dod â’r cyfanswm a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i £49,000.

‘Trasiedi’

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Carwyn Jones:

“Ym 1918 syfrdanwyd yr holl fyd gan y trychineb yn Senghenydd a newidiwyd bywydau bron pob aelwyd yng Nghwm Aber.

“Roedd yn drasiedi a ddaeth yn symbol o’r peryglon a’r aberth a wnaed gan y rhai fu dan ddaear yn chwilio am lo, ond na ddaethant byth adref. Rwyf yn hapus iawn ein bod yn gallu chwarae rhan drwy gefnogi’r gofeb werthfawr hon.”