Guto Bebb a David Williams
Mae Aelod Seneddol Aberconwy heddiw wedi bod yn gweithio shifft awr ginio y tu ôl i far yn ei etholaeth.

Cafodd Guto Bebb AS ei wahodd i weithio y tu ôl i far gwesty’r Ambassador yn Llandudno gan y perchennog David Williams, fel rhan o wythnos letygarwch.

Roedd yr Aelod Seneddol yn arfer bod yn bartner mewn tafarn ac mae’n aelod o’r Grŵp Cwrw yn y Senedd yn San Steffan.

“Mae twristiaeth yn rhan bwysig tu hwnt o’r economi leol,” meddai Guto Bebb.

“Rwy’n falch o gynrychioli Aberconwy sydd â thri bragdy lleol gwych ac rwy’n cymryd pob cyfle i roi sylw iddyn nhw yn San Steffan.”