Elan Closs Stephens
Bydd dau gorff sy’n cynrychioli cynulleidfaoedd yng Nghymru yn cyfarfod i drafod cyfryngau’r wlad nos Iau.
Bydd Cyngor Cynulleidfa Cymru’r BBC a Phwyllgor Ymgynghorol Cymreig Ofcom yn cyfarfod er mwyn rhannu a thrafod materion sy’n peri pryder.
Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol Cymru’r BBC, sy’n cadeirio Cyngor Cynulleidfa Cymru: “Gan fod gan y ddau gorff swyddogaethau allweddol yng nghyswllt darlledu yng Nghymru, mae’n dda o beth bod Pwyllgor Ymgynghorol Cymru Ofcom a Chyngor Cynulleidfa Cymru’r BBC yn cyfarfod o dro i dro er mwyn rhannu gwybodaeth a chanfyddiadau.
“Mae’r naill gorff fel y llall yn gwbl ymwybodol o rai o’r materion sy’n wynebu cynulleidfaoedd teledu a radio yng Nghymru, gan gynnwys trafferthion gyda derbyniad, cynnal dinasyddiaeth a chymdeithas sifil trwy sicrhau bod yr allbwn newyddion yn rhoi’r sylw dyladwy i faterion perthnasol i ddinasyddion Cymru, y rhannau helaeth o Gymru sydd heb dderbyniad DAB i orsafoedd radio cenedlaethol Cymru Radio Wales a Radio Cymru, a chyflymdra band-llydan mewn rhannau o Gymru.”
Rhannu gwybodaeth
Ychwanegodd Elan Closs Stephens: “Bydd cyfarfod nos Iau yn gyfle i ni drafod y materion hyn a rhai eraill a rhannu’r wybodaeth sydd gennym gan gynulleidfaoedd yng Nghymru er mwyn gweld sut y gellid mynd i’r afael â’r materion hyn.”
Daeth Cyngor Cynulleidfa Cymru’r BBC i fod o ganlyniad i’r Siarter Frenhinol Bresennol yn 2007 ac mae â’r cyfrifoldeb o gynghori Ymddiriedolaeth y BBC ar sail sylwadau cynulleidfaoedd yng Nghymru ynghylch rhaglenni a gwasanaethau’r BBC.
Mae Pwyllgor Ymgynghorol Cymru Ofcom yn darparu cyngor i Ofcom ar faterion cyffredinol a phenodol sy’n gysylltiedig â chyfathrebu a’r sector bost yng Nghymru, a darparu Cyngor i Ofcom ar faterion y cyfeirir at y Pwyllgor gan y rheoleiddiwr.