Ian Watkins
Mae achos llys prif leisydd y Lostprophets wedi ei ohirio heddiw.
Ymddangosodd Ian Watkins, 35, sy’n wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â cham-drin plant, drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Caerdydd. Mae’r achos wedi ei ohirio tan 20 Mai. Ni chafodd ple ei gyflwyno .
Mae’r canwr wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i dreisio plentyn dan 13 oed ac o gynllwynio i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn dan 13 oed.
Mae hefyd yn wynebu tri chyhuddiad yn ymwneud â meddu ar, a dosbarthu, lluniau anweddus, ac un cyhuddiad o fod yn berchen ar bornograffi eithafol.
Mae’r canwr roc o Bontypridd wedi cael ei gadw yn y ddalfa ers mis Rhagfyr.