Farmbox Meats yn Llandre
Mae lladd-dy gafodd ei gau dros-dro yn dilyn ymchwiliad i gig ceffyl yn Swydd Efrog a Cheredigion bellach yn cael masnachu eto.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi codi gwaharddiad ar ladd-dy Peter Boddy yn Todmorden, Gorllewin Efrog, ond mae gwaharddiad yn dal mewn grym ar ladd-dy Farmbox Meats yn Llandre, Ceredigion.
Mae tri dyn gafodd eu harestio fis diwethaf ar amheuaeth o dwyll yn ymwneud â chig ceffyl, dau yng Ngheredigion ac un yn Swydd Efrog, yn parhau i fod ar fechnïaeth.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud eu bod nhw wedi galw am sicrwydd gan ladd-dy Peter Boddy eu bod nhw’n gymwys i fasnachu eto. Mewn datganiad dywedon nhw,
“Mae’r FSA wedi hysbysu’r busnes na fydd yn oedi cyn tynnu ei chymeradwyaeth yn ôl os bydd digon o dystiolaeth nad ydyn nhw’n cydymffurfio gyda’r holl ofynion sydd ar fasnachwyr bwyd.”