Bydd cynllun ffilm gyffrous newydd yn cael ei lansio yn Ne Ceredigion wythnos nesaf o dan yr enw Cadw’r Cof.

Bwriad y prosiect ffilm yw uno cymunedau Rhydlewis, Blaenporth, Penmorfa, Glynarthen a Phontgarreg ers cau’r ysgolion bach yno’r llynedd.

Yn sgil hyn, agorwyd Ysgol T Llew Jones yn 2012 ym Mrynhoffnant, a bwriad y prosiect yw uno cymunedau’r sir drwy gyfrwng ffilm.

Dywedodd Alwyn Ward, Prifathro’r Ysgol, “Rydym wedi sicrhau nawdd ariannol trwy gynllun Ewropeaidd Cynnal y Cardi i gyflogi dau berson sydd â chefndir yn y cyfryngau.”

Lleucu Meinir, sydd wedi bod yn gweithio ar brosiectau tebyg dros y flwyddyn ddiwethaf trwy gyfrwng ffilm, a Heledd Sion, newyddiadurwraig gyda deuddeg mlynedd o brofiad yn y BBC, sydd y tu ôl i’r prosiect.

Gweithdai

Bydd gweithdai yn cael eu cynnal i ysbrydoli a dysgu sgiliau newydd i bawb o bob oedran yn y cymunedau hyn, gan obeithio creu cofnod cyfoes o’r pum ardal sydd bellach yn un gymuned newydd.

Dywedodd Lleucu Meinir: “Yn y prosiectau ffilm cymunedol yma, mae offer ffilmio pwrpasol yn cael ei brynu ar gyfer defnydd y gymuned. Y gymuned sy’n dewis y straeon, yn gwneud y gwaith ffilmio a llawer o’r golygu ac yn trefnu premiere ar gyfer eu ffilm orffenedig.”

Yn ôl Heledd Sion, “Bydd y ffilm orffenedig yn cael ei dangos yn ei chyfanrwydd am y tro cyntaf mewn noson arbennig yn Ysgol T Llew Jones ym mis Gorffennaf.”

Mae gwahoddiad i unrhyw un sy’n byw yn yr ardal neu sydd â diddordeb yn y cynllun i ddod i’r lansiad i gael esboniad o’r prosiect ac ymuno yn y bwrlwm am 7yh, Mawrth 12, 2013.