Caryl Lewis
Mae Radio Cymru wedi cyhoeddi mai Caryl Lewis yw hoff awdur y Cymry.

Cafodd y gystadleuaeth ei lansio gan Radio Cymru ar y cyd â’r Cyngor Llyfrau a Llên Cymru i nodi Diwrnod y Llyfr.

Roedd y panel yn gyfuniad o werthwyr llyfrau a llyfrgellyddion, a luniodd restr fer o ddeg o enwau.

Gofynnodd Radio Cymru i’w wrandawyr bleidleisio am yr enillydd yn dilyn trafodaeth ar raglen Nia Roberts.

Mae Caryl Lewis, sy’n enedigol o Ddihewyd ger Aberaeron ac sydd bellach yn byw ger Aberystwyth, yn ysgrifennu llyfrau i blant ac oedolion.

Mae hi wedi cyhoeddi dros ugain o gyfrolau, a chafodd ei nofel ddiweddaraf, ‘Naw Mis’, ei chyhoeddi yn 2009.

Enillodd hi wobr Tir na n-Og yn 2005 am ei nofel ‘Iawn Boi?’, a Llyfr y Flwyddyn yn yr un flwyddyn am ei nofel ‘Martha, Jac a Sianco’, a gafodd ei haddasu ar gyfer S4C yn ddiweddarach.

‘Anrhydedd fawr’

Dywedodd Caryl Lewis: “Mae’n anrhydedd fawr ennill y gystadleuaeth hon, yn enwedig felly gan mai’r darllenwyr eu hunain oedd yn gwneud y dewis.

“Mae pob awdur yn naturiol yn falch o wybod bod eu gwaith yn apelio at y gynulleidfa.”

Llyfrau’n ‘creu argraff ddofn’

Dywedodd Golygydd Rhaglenni Cyffredinol BBC Radio Cymru, Lowri Davies: “Roedd hi’n gystadleuaeth ddifyr iawn, gyda deg awdur hynod gryf ar y rhestr fer.

“Llongyfarchiadau i Caryl Lewis, yr awdur a ddaeth i’r brig.

“Mae Caryl yn sicr wedi gwneud ei marc dros y blynyddoedd diwethaf fel awdur gweithiau i blant ac oedolion, a hynny mewn sawl cyfrwng gwahanol.

“Mae gweithiau o’i heiddo, fel ei nofel ‘Martha, Jac a Sianco’ yn sicr wedi creu argraff ddofn ar ddarllenwyr Cymraeg ac mae’r wobr hon yn brawf o’i phoblogrwydd.”