Y Crown At Whitebrook
Fe fydd bwyty seren Michelin yn Sir Fynwy yn cau yn syth oherwydd “materion ariannol” fe gyhoeddwyd ddoe.
Dywed staff y Crown At Whitebrook yn Nyffryn Gwy bod yr eira trwm dros y gaeaf wedi ychwanegu at broblemau’r sefydliad poblogaidd.
Dim ond pedwar o fwytai o safon Michelin sydd yng Nghymru, ac fe enillodd y Crown At Whitebrook ei seren yn 2007, gan gyrraedd safle 27 yn y Good Food Guide 2013.
Cyhoeddodd bwrdd rheoli’r bwyty ddoe fod materion ariannol wedi eu gorfodi i’w gau, gyda cholledion o £1.23miliwn ar gyfer y flwyddyn hyd at Fawrth 31, 2013.
James Sommerin, 34, o Gaerllion, a enillodd ei seren Michelin gyntaf yn 28 oed, oedd yn rhedeg y bwyty.
Mynegwyd siom ar Twitter ddoe ar ôl i’r bwyty gyhoeddi ei fod yn cau ar unwaith – cafodd ei ddisgrifio gan un fel “Y perl yng nghoron coginio Cymraeg”; “Diwrnod trist i fwyd Cymraeg” meddai un arall; a “Bydd talent coginiol J Sommerin yn siwr o godi eto” dywedodd trydarwr arall.