Mae mudiadau Mwslimaidd yng Ngwent wedi dod at ei gilydd i geisio gwneud y Gymraeg yn fwy amlwg mewn cymunedau Mwslimaidd.

Bydd Cromen Gwyrdd a’r Gymdeithas Ddiwylliannol Fwslimaidd Cymreig yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod pob cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ddwyieithog.  Bydd hyn yn cynnwys taflenni cyhoeddusrwydd a fydd yn cael eu darparu ledled sir Gwent, a’r de ddwyrain.

Mae Cromen Gwyrdd wedi ei leoli yng Nghasnewydd, ac mae’n trefnu ymweliadau i fosgiau ar draws Gymru.

Dywedodd Haikal Muflahi, llefarydd ar ran Cromen Gwyrdd, eu bod yn awyddus i gynnwys y Gymraeg yn eu gwaith.

“Mae llawer o ddigwyddiadau Mwslimaidd yn cael eu cynnal dros Gymru, ac roedden ni’n teimlo ei fod yn amser i ni gynnwys mwy o Gymraeg ar ein deunyddiau cyhoeddusrwydd.  Wedi i ni edrych i mewn i’r peth, nid yw cyfieithu yn ychwanegu llawer at gost cynhyrchu’r deunyddiau.

“Mae sawl teulu Mwslimaidd yng Nghaerdydd a Chasnewydd sy’n gyrru eu plant i ysgolion Cymraeg,  ond nid yn unig ar eu cyfer nhw mae hyn, rydym yn gobeithio cynyddu gwelededd yr iaith o fewn y gymdeithas yn gyffredinol.”

Dywedodd Owain Tudur Williams, o’r Gymdeithas Ddiwylliannol Fwslimaidd Gymreig, eu bod yn gweld y bartneriaeth fel cyfle gwych i ysbrydoli mudiadau eraill i weithio’n ddwyieithog.

“Dwi’n gobeithio y bydd eraill yn gwneud aduniadau i helpu chwarae eu rhan mewn sicrhau dyfodol ein diwylliant.”