Mae Ysgol Gymunedol Doc Penfro wedi dweud nad oes olion cig ceffyl yn y cynnyrch eidion sydd wedi cael ei ddosbarthu i’r ysgol.

Mae’r ysgol, sydd wedi’i hariannu’n breifat, yn cael ei chyflenwi gan gwmni Sodexo trwy’r Cyngor Sir.

Doedd yr ysgol ddim yn un o’r tri safle yn y sir sydd wedi derbyn cynnyrch sydd wedi profi’n bositif am gig ceffyl.

Mae holl gynnyrch Sodexo wedi cael ei dynnu’n ôl yn y cyfamser, cyn i brofion pellach gael eu cynnal.

Dywedodd pennaeth yr ysgol, Michele Thomas: “Rydyn ni’n falch o glywed y newyddion yma a fydd, rwy’n siŵr, yn rhyddhad i’r holl ddisgyblion, rhieni a staff.

“Fe wnaethon ni benderfyniad ar ôl dychwelyd ar ôl hanner tymor i beidio gweini unrhyw gynnyrch cig eidion tan fod y sefyllfa’n eglur.”

Welsh Bros

Yn y dyddiau diwethaf, mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau bod olion cig ceffyl wedi cael eu darganfod mewn cynnyrch sy’n cael ei ddosbarthu i ysgolion a chartrefi gofal gan gwmni Welsh Bros, sy’n cyflenwi safleoedd yn Sir Benfro.

Mae nifer o awdurdodau addysg eraill – gan gynnwys Bro Morgannwg, Caerdydd a Sir Gaerfyrddin – wedi tynnu cynnyrch yn ôl rhag ofn ei fod yn cynnwys olion cig ceffyl.