Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi eu bwriad i dreialu cynllun a allai olygu bod gyrwyr sy’n methu profion llygaid yn colli eu trwyddedau ac yn cael dirwy.

Gallai gyrwyr sydd hefyd yn anwybyddu cyngor diogelwch golli eu trwyddedau fel rhan o’r cynllun.

Bydd y cynllun yn cael ei dreialu yn ystod diwrnod o godi ymwybyddiaeth, pan fydd yr heddlu’n stopio gyrwyr i’w rhybuddio am bwysigrwydd gwisgo’r sbectol gywir.

Bydd gofyn i yrwyr allu darllen rhif cofrestredig car sydd 20 metr i ffwrdd, sef y pellter golwg cyfreithlon ar gyfer gyrru.

Yn yr achosion mwyaf difrifol a pheryglus, gallai gyrwyr golli eu trwyddedau gyrru ar unwaith os nad ydyn nhw’n cyrraedd y safon sy’n dderbyniol.

Gallai gyrwyr eraill golli eu trwyddedau o fewn 48 awr.

‘Dim ond 10% sy’n cael profion llygaid rheolaidd’

Dywed yr Adran Drafnidiaeth mai 10% yn unig o yrwyr dros 50 oed sy’n cael profion llygaid rheolaidd.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd, Steve Furnham: “Mae yna dabŵ diwylliannol ynghylch yfed a gyrru, peidio gwisgo gwregys diogelwch a defnyddio ffôn symudol wrth yrru.

“Ond mae sicrhau bod gyrwyr yn gwisgo’r sbectol gywir er mwyn gyrru’n ddiogel yr un mor bwysig.

“Mae unrhyw gerbyd sydd yn nwylo rhywun nad oes ganddo reolaeth lawn drosto’n arf angheuol.

“Does dim pleser mewn tynnu hawl rhywun i yrru i ffwrdd oddi wrthyn nhw, ond rhaid i bobol gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd.

“Fydd yna ddim oedi os ydyn nhw’n eu peryglu eu hunain a phobl eraill.”

Bydd yr heddlu’n treialu’r cynllun ym Mhort Talbot, Caerdydd, Aberdâr a’r Rhondda.

‘Cadw’n ffyrdd yn ddiogel’

Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA, sy’n cydweithio gyda’r heddlu: “Mae lleihau nifer y bobol sy’n dioddef ar y ffyrdd yn flaenoriaeth ac mae ein rheolau trwyddedu yn chwarae rhan bwysig yn y broses o gadw’n ffyrdd ni’n ddiogel.

“Mae gan bob gyrrwr gyfrifoldeb i sicrhau eu bod nhw’n gymwys i yrru bob tro maen nhw’n mynd y tu ôl i’r olwyn ac mae hynny’n cynnwys sicrhau eu bod nhw’n bodloni’r gofynion golwg.”