Mae rhieni’n cael eu hannog i sicrhau bod eu plant yn derbyn y brechlyn MMR wrth i nifer yr achosion o’r frech goch gynyddu yn ardal Abertawe a Chastell nedd Port Talbot.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i 190 o achosion o’r frech goch. Mae 20 o achosion o’r afiechyd wedi cael eu cofnodi yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Fe ddechreuodd yr achosion ddod i’r amlwg ym mis Tachwedd y llynedd mewn 32 o ysgolion cynradd ac uwchradd a meithrinfeydd yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.
Mae rhieni’n cael eu hatgoffa bod angen dau ddos o’r brechlyn MMR i ddiogelu eu plant rhag cael y frech goch.
Fel arfer mae plant yn cael y brechlyn cyntaf yn 12-13 mis oed a’r ail pan maen nhw’n 3 blwydd a 4 mis oed.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai rhieni pob plentyn rhwng 1 ac 18 oed sydd heb gael eu brechu gysylltu a’u meddyg teulu.
‘Pryder’
Dywedodd Dr Marion Lyons, cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn parhau i fod yn bryderus am nifer yr achosion o’r frech goch yn yr ardal.
“Mae’n rhaid pwysleisio bod y frech goch yn salwch sy’n gallu lladd, neu achosi anawsterau parhaol i gleifion,” meddai.
“Rydyn ni’n amcangyfrif bod mwy na 8,500 o blant oed ysgol yn Abertawe Bro Morgannwg sy’n wynebu risg o gael y frech goch oherwydd eu statws MMR.”
Mae’r salwch yn achosi twymyn, peswch, llygaid coch, a theimlo’n sâl yn gyffredinol. Mae’r frech yn ymddangos rhai dyddiau’n ddiweddarach ar yr wyneb gan ledu i rannau eraill o’r corff dros gyfnod o sawl diwrnod.