Llys y Goron Caernarfon
Mae dau ddyn wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ar gyhuddiad o lofruddio dynes 65 oed yn Wrecsam.
Mae Alexandros Weatherill, sy’n 23 oed, a Christopher Curran, sy’n 34 oed, o ardal Wrecsam wedi ei eu cyhuddo o lofruddio Glynis Eileen Solmaz yn ei chartref ar Chwefror 20.
Maen nhw hefyd wedi eu cyhuddo o gynllwynio i ladrata.
Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa tan 7 Mai pan mae disgwyl iddyn nhw gyflwyno ple.
Mae dau ddyn arall – Christopher Natt, 52, a David Lovell, 29, – hefyd wedi eu cyhuddo o gynllwynio i ladrata.