Stephen Jones
Mae maswr Cymru Stephen Jones wedi cyhoeddi ei fod am roi’r gorau i chwarae ar ddiwedd y tymor.
Bydd e’n derbyn swydd gyda thîm hyfforddi Wasps ar ôl dau dymor fel chwaraewr gyda’r clwb o Lundain.
Stephen Jones, 35, sy’n dal y record am y nifer fwyaf o gapiau dros Gymru (104), ac ef yw’r sgoriwr ail uchaf yn hanes ei wlad y tu ôl i Neil Jenkins, gyda 970 o bwyntiau.
Mae e hefyd wedi cynrychioli’r Llewod mewn chwe gêm brawf yn ystod dwy daith yn 2005 a 2009.
Bydd e’n ymuno â’r Cymro Dai Young ar y tîm hyfforddi’r tymor nesaf.
Yn ystod ei yrfa, mae e hefyd wedi cynrychioli Scarlets Llanelli a Clermont Auvergne yn Ffrainc.
‘Braint i wisgo crys Cymru a’r Llewod’
Mewn datganiad, dywedodd Stephen Jones: “Rwy’n teimlo’n lwcus iawn fy mod i wedi cynrychioli timau gwych ar hyd y blynyddoedd ac rwy’n teimlo mai nawr yw’r amser i symud i hyfforddi, sy’n rhywbeth rwy wastad wedi bod eisiau ei wneud.
“Mae yna gyfle i fi wneud hynny gyda Wasps ac rwy’n gyffrous iawn am y cam nesaf yn fy ngyrfa.
“Rwy am ddweud diolch yn fawr i bawb yn y Scarlets, Clermont Auvergne a Wasps – ac rwy’n ddiolchgar am fod wedi gwisgo crys tri chlwb proffesiynol gwych yn ystod fy ngyrfa.
“Rwy hefyd yn ei ystyried yn fraint i fod wedi gwisgo crys Cymru a’r Llewod ac rwy’n gwerthfawrogi pawb sydd wedi cynrychioli’r timau hynny a’r cefnogwyr sydd wedi bod yno ac wedi fy nghefnogi yn ystod fy nyddiau fel chwaraewr.
“Mae gen i atgofion a phrofiadau gwych i fynd gyda fi.”
‘Hyfforddwr gwych’
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Wasps, Dai Young: “Ro’n i bob amser yn meddwl y byddai Stephen yn hyfforddwr gwych ac mae popeth rwy wedi’i weld amdano fe’r tymor hwn yn cefnogi hynny.
“Mae’n drist i’w weld e’n ymddeol ond wrth golli rhywbeth ar y cae, rydyn ni’n elwa oddi ar y cae.”