Mae’r Sgarlets wedi rhyddhau ail-reng rhyngwladol yr Ariannin Tomás Vallejos o’i gytundeb gyda’r clwb.
Dim ond wyth gwaith mae Vallejos wedi ymddangos dros y Sgarlets ers ymuno’r llynedd ac mae’n dychwelyd i’r Ariannin er mwyn ymarfer gyda thim Pampas XV cyn iddyn nhw hedfan i Dde Affrica i chwarae yn nghwpan Vodacom.
Dywedodd hyfforddwr y Sgarlets, Simon Easterby, fod y chwaraewr 27 oed wedi gorfod “dal i fyny gyda deinameg y garfan” ar ôl ymuno yn yr haf o glwb yr Harlequins, ond diolchodd iddo am ei “ysbryd a’i frwdfrydedd” yn ystod ei gyfnod yn Llanelli.
Roedd Tomás Vallejos yn un o nifer o chwaraewyr ail-reng o dramor gafodd eu harwyddo gan y Sgarlets y llynedd, yn eu plith George Earle, Joe Snyman, a Jake Ball. Roedd Sione Timani o Tonga yno eisoes, ac ymunodd Richard Kelly â’r rhanbarth o’r Gweilch.
Mae’r Sgarlets yn anelu am y pedwerydd safle yng nghynghrair y RaboDirect Pro 12 eleni, ac yn cwrdd â Chaeredin ar Barc y Sgarlets nos Wener.