Mae perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan wedi dweud ei fod yn ystyried newid enw’r clwb i Ddreigiau Caerdydd.
Dywed y perchennog o Falaysia y gallai’r enw newid pe bai’r clwb yn cael eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair y tymor nesaf.
Mae’r tîm ar frig y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, ac maen nhw wyth pwynt ar y blaen i Watford, sydd yn yr ail safle.
Mae Tan wedi dweud y bydd £25 miliwn ar gael i’r rheolwr Malky Mackay pe bai’n arwain ei dîm i’r Uwch Gynghrair.
Mae Tan eisoes wedi achosi dicter ymhlith cefnogwyr Caerdydd wedi i liw’r crys newid o las i goch.
Mae’r lliw coch yn cael ei ystyried yn lwcus yn Asia, ac mae’r perchennog wedi dweud bod lliw’r crys yn debygol o ddenu mwy o ddiddordeb gan gefnogwyr yn ei wlad ei hun.
Dywedodd nad yw wedi trafod y posibilrwydd o newid enw’r clwb gyda’r cyfarwyddwyr eraill eto.