Mae blaen asgellwr y Dreigiau, Nic Cudd,  wedi arwyddo cytundeb o ddwy flynedd gyda’r rhanbarth.

Fe ddaeth y chwaraewr 24 oed o’r Sgarlets ym mis Medi ar gytundeb o flwyddyn oherwydd anafiadau i reng ôl y Dreigiau.

‘‘Cefais gyfle i brofi fy hun fel chwaraewr proffesiynol, ac rwy’n gobeithio fy mod wedi dangos hynny,’’ meddai Cudd.

‘‘Dros y misoedd diwethaf, rwy’n teimlo fy mod wedi cryfhau yn gorfforol ac yn cario’r bêl yn effeithiol,’’ ychwanegodd Cudd.

‘‘Rwyf wrth fy modd bod Nic wedi ymestyn ei gytundeb gyda ni, mae’n aelod gwerthfawr o’r garfan,’’ meddai Rob Beale, Cyfarwyddwr y Dreigiau.