George North
Mae asgellwr Cymru, George North wedi dweud bod hunan hyder Cymru yn gryf ar ôl cipio buddugoliaethau yn Ffrainc a’r Eidal yn olynol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Er gwaethaf colli wyth gêm yn olynol, roedd North yn hyderus byddai Cymru yn dychwelyd i’w safon uchel.
‘‘Pan gollon ni i Iwerddon, roedd pawb wedi digalonni’n llwyr, ond roedden ni wedi aros yn gryf fel uned, fel tîm,’’ meddai North.
Wedi bod yn llwyddiannus yn Murrayfield o’r blaen, mae North yn meddwl fod angen i Gymru fod yn effro pan fydd y Crysau Cochion yn herio’r Albanwyr ar 9 Mawrth.
‘‘Os gallwn dargedu’r mannau cywir a cheisio osgoi chwarae’r bêl o hanner ein hunain a chadw’r pwysau arnynt, rwy’n credu gallwn ni ennill yno,’’ ychwanegodd North.