Prifysgol Aberystwyth
Mae llyfrgell Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn rhodd o £10,000 gan gyn-löwr fu farw’r llynedd.

Bu farw Rhys Lewis yn 108 oed, ac fe adawodd yr arian i lyfrgell y brifysgol lle’r oedd e wedi bod yn fyfyriwr.

Yn sgil yr arian, bydd y llyfrgell yn ychwanegu at ei chasgliad o lyfrau hanes, a bydd cydnabyddiaeth i Rhys Lewis ym mhob un o’r llyfrau newydd.

Cyn-fyfyriwr

Graddiodd mewn Hanes a Hanes Economaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1931, cyn ennill cymhwyster i fod yn athro.

Cafodd ei eni yn Llangennech yn Sir Gaerfyrddin, ac aeth dan ddaear yn 14 oed, ond roedd yn benderfynol o gael addysg prifysgol.

Treuliodd gyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe fel myfyriwr aeddfed cyn symud yn ddiweddarach i Aberystwyth.

Roedd wedi bod yn Ysgrifennydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn ystod streic gyffredinol 1926.

Yn 1928 symudodd i Aberystwyth i astudio hanes a hanes economaidd. Ar ôl graddio yn 1931 arhosodd ymlaen am flwyddyn arall i gwblhau ei dystysgrif athro.

Graddiodd unwaith eto o Ysgol Economeg Llundain gyda gradd BSc yn 1938, ac enillodd MSc yn 1946 tra ei fod yn gwasanaethu gyda’r Home Guard.

Darlithydd

Daeth yn ddarlithydd yn ddiweddarach yng Ngholeg Hyfforddiant Easthampstead Park, sydd bellach yn rhan o Brifysgol Reading. Daeth yn Uwch-ddarlithydd yn ddiweddarach.

Bu farw ei wraig Louise yn 1994, ac mae ganddyn nhw ddau fab, saith o wyrion a phump o or-wyrion.

Cafodd y rhodd ei gyflwyno’n swyddogol i’r brifysgol gan ei fab, John, sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth, ar Chwefror 20.

Mewn derbyniad yn Llyfrgell Hugh Owen y Brifysgol, dywedodd John Lewis: “Bu Aberystwyth yn ffurfiannol yn addysg fy nhad.

“Mwynheuodd ei amser yma yn fawr iawn, er mae’n rhaid ei bod yn anodd iawn iddo yn economaidd.

“Teimlai ei fod am adael rhywbeth parhaol ac mai’r ffordd orau o wneud hyn oedd cynorthwyo llyfrgell y Brifysgol.”

‘Ysbrydoledig’

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon: “Rydym yn hynod werthfawrogol o gymynrodd Mr Lewis, un yr wyf yn siŵr a fydd o fudd mawr i’r myfyrwyr presennol a chenedlaethau i ddod.

“Mae ei stori’n wirioneddol ysbrydoledig ac yn brawf o’r hyn sydd gan addysg prifysgol i’w gynnig i fyfyrwyr aeddfed. Rwy’n arbennig o falch y bydd ein myfyrwyr hanes yn cael y cyfle i wneud rhai argymhellion ar gyfer llyfrau i’w prynu o’r gymynrodd bwysig hon.”