Ni fydd tocynnau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol eleni yn mynd ar werth tan ddiwedd mis Ebrill, bron i ddeufis yn hwyrach na’r arfer.
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar ddechrau mis Awst bob blwyddyn, fel arfer yn mynd ar werth ar 1 Mawrth, ond eleni, mae’r trefnwyr yn newid y drefn, mewn ymdrech i greu fwy o fomentwm at yr ŵyl.
Bydd tocynnau ar gyfer y maes a chyngherddau’r ŵyl yn mynd ar werth ar 24 Ebrill, i gyd-fynd â dathliadau 100 diwrnod tan yr Eisteddfod.
Mwy yn prynu ar-lein
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, bod anghenion ymwelwyr i’r ŵyl wedi newid.
“Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r tocynnau’n cael eu gwerthu ar-lein, ac mae hyn yn rhoi mwy o ryddid i’n cwsmeriaid.
“Rydym hefyd wedi gweld pobl yn ei gadael yn hwyrach cyn mynd ati i brynu eu tocynnau, ac felly rydym wedi penderfynu cyfuno’r dathliadau 100 diwrnod i fynd gyda lansiad ein hymgyrch docynnau cyngherddau a Maes.”
Sir Ddinbych
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych eleni, ar gyrion dref Dinbych, a dywedodd Elfed Roberts bod paratoadau cynnar yn mynd yn dda ar y safle. Honnodd y byddai’r ymgyrch docynnau newydd yn hawlio mwy o sylw at yr ardal hefyd.
“Bydd yr ymgyrch yn ffordd o gadw momentwm i fynd dros y tri mis a hanner cyn cychwyn yr Eisteddfod, a bydd hefyd yn rhoi mwy o ffocws i’n gwaith yn lleol yn ardal Sir Ddinbych a’r Cyffiniau.”
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng 2-10 Awst, a bydd tocynnau ar gael ar-lein, www.eisteddfod.org.uk neu drwy ffonio’r llinell docynnau ar 0845 4090 800 o 24 Ebrill ymlaen.