Mae afiechyd sy’n lladd coed ynn wedi ei ddarganfod ar dri safle yn Sir Benfro a Cheredigion am y tro cyntaf.

Mae’r afiechyd, Chalara, yn cael ei achosi gan ffwng, a gallai ledaenu rhwng coed a difa coedwigoedd cyfan.

Cafodd y coed heintiedig eu darganfod ar goetiroedd preifat, ac mae ymchwiliad wedi dangos i’r coed ddod o blanhigfeydd lle mae’n wybyddus bod Chalara yn bodoli.  Mae’r planhigion yma eisoes wedi eu codi o’r ddaear a’u difa mewn gobaith o atal lledaeniad yr haint.

Cafodd yr haint ei gofnodi gyntaf ym Mhrydain yn 2012 yn Swydd Caerlŷr ac mae wedi lledaenu i’r amgylchedd ehangach yn ne ddwyrain Lloegr o sborau a oedd, mae’n debyg, wedi’u chwythu ar draws y Sianel a Môr y Gogledd.

Dywedodd John Browne, Pennaeth Rheoli Coedwigoedd ac Iechyd Coed i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru:  “Er bod yr heintiadau hyn sydd newydd eu cadarnhau yn dangos fod yr haint yn ymledu yma yng Nghymru, does yna’n dal ddim tystiolaeth hyd yma fod Chalara’n bresennol yn yr amgylchedd ehangach.”

Honnodd bod yr haint yn bygwth coed brodorol sy’n ffurfio rhan bwysig o dirlun Cymru, a drwy ddilyn canllawiau syml fel tynnu mwd o esgidiau a theiars ceir, mae’n bosib atal y clefyd.

Er nad yw Chalara yn beryglus i bobol nac anifeiliaid, mae’r Llywodraeth wedi gosod gwaharddiad ar fewnforio a symud planhigion a hadau Ynn ym Mhrydain.

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn annog defnyddwyr coetiroedd i ddysgu beth yw symptomau Chalara, a’u rhybuddio os bydd mwy o achosion yn cael eu darganfod.