Canolfan ferlota Pontcanna
Bydd ymgyrchwyr yn casglu tu allan i Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd ddydd Iau, i brotestio yn erbyn toriadau gwerth £22.5 miliwn yn y ddinas.

Ymgyrch Caerdydd yn erbyn y Toriadau sydd wedi trefnu’r brotest, sy’n cyd-fynd a chyhoeddiad  y cyngor am eu cyllideb ar gyfer 2013-14. Nod y brotest yw rhoi pwysau ar gynghorwyr i ddiogelu dyfodol nifer o wasanaethau cyhoeddus.

Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi cyhoeddi bydd rhaid gwneud toriadau i swyddi a gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd diffyg ariannol.  Mae nifer o wasanaethau cyhoeddus fel Canolfan Ferlota Pontcanna a phwll nofio Sblot yn wynebu toriadau, tra bod nifer o swyddi yn y cyngor hefyd dan fygythiad.

‘Toriadau ffyrnig’

Dywedodd ysgrifennydd Caerdydd yn erbyn y Toriadau, Ross Saunders, bod rhaid denu sylw at y toriadau sydd wedi eu hargymell.

“Rydyn ni’n gofyn i bobol gwrdd tu allan i Neuadd y Ddinas am 3.30 ddydd Iau i lobio’r cynghorwyr, a dangos ein gwrthwynebiad yn erbyn toriadau ffyrnig all olygu colli 350 o swyddi.”

Bydd nifer o gynrychiolwyr ymgyrchoedd cymunedol hefyd yn mynychu’r brotest, gan gynnwys Ymgyrch Achub Pwll Nofio Sblot, a’r ymgyrch i achub gwasanaeth Cwtch, sy’n rhoi cymorth i rieni sydd â phlant gydag Awtistiaeth.

Canolfan ferlota

Dywedodd Ross Saunders y byddai ymgyrchwyr sy’n ceisio achub y ganolfan ferlota ym Mhontcanna hefyd yn bresennol, ac aelodau o undeb Unsain, sy’n cefnogi’r brotest.

“Mae gan Gyngor Caerdydd tua £60 miliwn wedi ei neilltuo, yn ôl fy nghyfrifiad i, ac mae ganddyn nhw’r gallu i fenthyg arian hefyd.  Hoffwn ni weld y cyngor yn gwario neu fenthyg i sicrhau gwasanaethau, ac yna’n ymgyrchu i gael mwy o gyllideb gan y Llywodraeth.  Digwyddodd rhywbeth tebyg yn yr 1980au, pan oedd Thatcher mewn grym.”

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y mis diwethaf na fyddai unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud nes bod y cyngor wedi cyhoeddi’r gyllideb ar gyfer eleni.