Yr Eidal 9–26 Cymru
Mae gobeithion Cymru o gipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth dros yr Eidal yn y Stadio Olimpico brynhawn Sadwrn.
Roedd cais yr un i Jonathan Davies ac Alex Cuthbert yn yr ail hanner ynghyd â throed ddibynadwy Leigh Halfpenny yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i dîm Rob Howley mewn amodau anodd.
Hanner Cyntaf
Gêm i’r cicwyr oedd hi mewn hanner cyntaf gwlyb yn Rhufain a chafodd Leigh Halfpenny a Dan Biggar y gorau o faswr yr Eidal, Kris Burton, yn yr agwedd honno. Rheolodd Biggar y tir yn dda a chiciodd Halfpenny’r pwyntiau.
Daeth cic lwyddiannus gyntaf y cefnwr wedi wyth munud ond unionodd Buron i’r tîm cartref dri munud yn ddiweddarach.
Roedd Cymru yn feistri corn ar yr Eidal yn y sgrym ac arweiniodd hynny at ddwy gic gosb arall o droed Halfpenny.
Ond yr Eidal a Burton a gafodd y gair olaf am yr hanner cyntaf serch hynny gyda Burton yn cau’r bwlch i dri ar yr egwyl.
Ail Hanner
Doedd ymdrechion Burton am gôl adlam ddim cystal, a methodd eto ar ddechrau’r ail hanner ar ôl gwneud hynny unwaith yn y deugain munud agoriadol.
Gêm glos ddi fflach oedd hi ond daeth cais o unman i Gymru wedi pum munud o’r ail gyfnod pan adlamodd cic Mike Phillips yn garedig i Davies cyn i’r canolwr reoli’r bêl yn dda â’i droed a’i thirio. Trosodd Halfpenny’r ddau bwynt ychwanegol i ymestyn mantais y Cymry i ddeg pwynt.
Roedd yr Eidal yn ôl o fewn sgôr yn fuan wedyn serch hynny pan lwyddodd Burton gyda chic gosb arall, ond adferodd Halfpenny y deg pwynt o fantais yn syth gyda chic wych o bellter.
Yna, toc cyn yr awr, daeth eiliad dyngedfennol y gêm wrth i sgrym gref arall gan Gymru gael ei gwobrwyo gyda cherdyn melyn i brop a chapten yr Eidal, Martin Castrogiovanni.
A gyda’r gwrthwynebwyr i lawr i bedwar dyn ar ddeg daeth ail i Gymru trwy symudiad yn syth o’r cae ymarfer. Cafwyd symud da gan y canolwyr, Davies a Roberts, a tharodd Cuthbert y llinell ar garlam ac ar ongl berffaith cyn llithro drosodd yn y gornel.
Roedd dau bwynt ar bymtheg rhwng y ddau dîm yn dilyn trosiad gwych Halfpenny o’r ystlys ac roedd hynny’n ddigon i ennill y gêm gyda bron i ugain munud ar ôl.
Ymateb
Canolwr Cymru a sgoriwr y cais cyntaf, Jonathan Davies:
“’Oedd e’n berfformiad gwych gan y bois yn y rheng flaen, oedden nhw’n ffantastig heddi’. Ac roedd yn rhaid i ni wneud yn siŵr tu ôl y sgrym ein bod ni’n rhoi’r bois yn y lle iawn ar y ca’.
“’Oedd e’n anodd iawn ond ’oedd e’n berfformiad gwych yn erbyn tîm pwerus iawn, a ry’n i’n falch iawn o gael y fuddugoliaeth.”
Mae’r canlyniad yn codi Cymru i’r ail safle yn nhabl y Chwe Gwlad, am y tro pryn bynnag.
.
Yr Eidal
Ciciau Cosb: Kris Burton 11’, 31’, 51’
Cerdyn Melyn: Martin Castrogiovanni 59’
.
Cymru
Ceisiau: Jonathan Davies 45’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 46’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 8’, 17’, 21’, 53’