Gweilch 24–7 Caeredin
Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth dda yn erbyn Caeredin ar y Liberty nos Wener ond dylai’r Cymry fod wedi cipio pwynt bonws hefyd wrth iddynt lwyr reoli’r gêm yn y RaboDirect Pro12.
Sgoriodd Morgan Allen ddau gais i’r tîm cartref yn yr hanner cyntaf cyn i Rhys Webb ychwanegu trydydd toc cyn yr awr. Ac er iddynt bwyso a phwyso yn y chwarter olaf methodd y Gweilch a chroesi am y pedwerydd er i Gaeredin orffen y gêm gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn coch Nick De Luca.
Hanner Cyntaf
Dim ond un tîm oedd ynddi o’r dechrau’n deg a doedd fawr o syndod gweld Allen yn tirio wedi dim ond pedwar munud yn dilyn gwaith da Jonathan Thomas i dorri’r llinell fantais a dad lwytho.
A daeth ail gais i’r Gweilch ac ail i’r wythwr ifanc hanner ffordd trwy’r hanner pan blymiodd dros y gwyngalch eto yn dilyn cyfnod hir o bwyso gan ei gyd flaenwyr yng nghysgod y pyst.
Trosodd Matthew Morgan y ddau gais i roi pedwar pwynt ar ddeg o fantais i’r tîm cartref wrth i’r egwyl agosáu.
Yna daeth cais allan o unman i Gaeredin. Gwrthymosododd Netani Talei a Dougie Fife yn effeithiol i ennill y tir gwreiddiol cyn i’r bêl gael ei hailgylchu’n gyflym i allluogi’r blaenasgellwr, Hamish Watson, i sgorio, 14-7 ar hanner amser
Ail Hanner
Methodd y ddau faswr, Morgan a Harry Leonard, gic gosb yr un ar ddechrau’r ail hanner cyn i Morgan lwyddo gyda’i ail gynnig ef i ymestyn mantais ei dîm i ddeg.
Derbyniodd canolwr Caeredin, Ben Atiga, gerdyn melyn yn fuan wedyn am drosedd yn ardal y dacl ac roedd y Gweilch yn synhwyro pwynt bonws.
Gyda chymaint o chwaraewyr ar goll bu rhaid i’r Gweilch fod ychydig yn greadigol werth ddewis y tîm, a dechreuodd pedwar mewnwr y gêm mewn amrywiol safleoedd ymhlith yr olwyr. Ac un o’r rheiny, yr un oedd yn chwarae yn safle’r mewnwr, Rhys Webb, a gafodd y trydydd cais toc cyn yr awr.
Parhau i bwyso a wnaeth y Gweilch wedi hynny ond doedd dim cais i ddod, hyd yn oed pan yr oedd Caeredin i lawr i bedwar dyn ar ddeg yn y pum munud olaf yn dilyn cerdyn coch haeddianol De Luca am dacl hynod beryglus ar Tom Grabham.
Mae’r fuddugoliaaeth yn codi’r Gweilch dros y Scarlets i’r pedwerydd safle yn nhabl y Pro12, am bedair awr ar hugain o leiaf cyn i Fois y Sosban herio Leinster nos Sadwrn.
.
Gweilch
Ceisiau: Morgan Allen 4’, 22’, Rhys Webb 57’
Trosiadau: Matthew Morgan 5’, 23’, 57’
Cic Gosb: Matthew Morgan 54’
.
Caeredin
Cais: Hamish Watson 40’
Trosiad: Harry Leonard 40’
Cerdyn Melyn: Ben Atiga 55’
Cerdyn Coch: Nick De Luca 76’