Gleision 22–26 Connacht

Parhau mae tymor siomedig y Gleision yn dilyn colled arall yn y RaboDirect Pro12 nos Wener yn erbyn Connacht ar Barc yr Arfau.

Sgoriodd blaenasgellwr yr ymwelwyr, Willie Faloon ddau gais wrth i’r Gwyddelod gael y gorau o’r Gleision mewn gêm glos yng Nghaerdydd.

Hanner Cyntaf

Cafodd Connacht y dechrau perffaith gyda chais i’r asgellwr, Danie Poolman, wedi dim ond dau funud.

Ac aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Gleision dri munud yn ddiweddarach pan groesodd Faloon am ail gais i’r Gwyddelod. Llwyddodd Miah Nikora i drosi hwnnw hefyd, 0-12 wedi dim ond pum munud.

Ciciodd Rhys Patchell bwyntiau cyntaf y Gleision yn fuan wedi hynny ac roedd y Cymry yn ôl yn y gêm pan groesodd Harry Robinson am gais hanner ffordd trwy’r hanner.

Ond Connacht a Nikora a gafodd y gair olaf am yr hanner gyda chic gosb bedwar munud cyn yr egwyl, saith pwynt o fantais i’r ymwelwyr ar hanner amser.

Ail Hanner

Cafodd y Gleision ddechrau llawer gwell i’r ail hanner wrth i Patchell gicio dwy gic gosb i’r tîm cartref i gau’r bwlch i un pwynt tra yr oedd bachwr Connacht, Jason Harris-Wright, yn y gell gosb.

Ymatebodd Nikora gyda thri phwynt arall i’r ymwelwyr cyn i’r Gleision fynd ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gyda chais yr wythwr, Robin Copeland, ar yr awr.

Ond tri munud yn unig a barodd y fantais honno cyn i Faloon adfer mantais y Gwyddelod gyda’i ail gais o’r noson.

Ac er i Patchell gau’r bwlch i un eto fe ddaliodd Connacht eu gafael gyda Nikora’n cael y gair olaf gyda chic gosb arall wrth i’r Gleision orfod bodloni am bwynt bonws yn unig.

Mae’r Gleision yn aros yn seithfed yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y canlyniad ond mae Connacht yn cau’r bwlch i bum pwynt yn yr wythfed safle.

.

Gleision

Ceisiau: Harry Robinson 21’, Robin Copeland 61’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 7’, 47’, 51’, 67’

.

Connacht

Ceisiau: Danie Poolman 2’, Wille Faloon 5’, 64’

Trosiad: Miah Nikora 6’

Ciciau Cosb: Miah Nikora 31’, 56’, 73’

Cerdyn Melyn: Jason Harris-Wright 47’