Bydd prif raglen gelfyddydau S4C yn cael ei chyflwyno gan Lisa Gwilym o fis nesa’ ymlaen.

Hi oedd yn arfer cyflwyno Y Sioe Gelf, cyn i S4C newid enw’r rhaglen i Pethe a chyflogi Rhun ap Iorwerth a Nia Roberts yn lle Lisa Gwilym.

Adlewyrchu bwrlwm y byd celf

“Mae cymaint i’n diddori neu roi adloniant i ni yn y byd sydd o’n cwmpas,” meddai Lisa Gwilym ar drothwy ei dychwelyd.

“Mae ‘na fwrlwm go iawn ar draws y celfyddydau yng Nghymru a’n gwaith ni bob wythnos ar Pethe fydd adlewyrchu hynny.

“Mae’r deinamig ar y rhaglen yn cynnig cyfuniad hyfryd o’r newydd a’r traddodiadol a phob math o amrywiaethau sy’n cadw bywyd yn ddiddorol.”

Daw Lisa yn wreiddiol o Henllan, ger Dinbych yn Nyffryn Clwyd, ac mae hi wedi dod yn wyneb cyfarwydd oherwydd ei rhaglenni teledu a radio dros y blynyddoedd.

Bydd Pethe yn ôl ar 11 Mawrth ar S4C.