Sen Segur
Bron i 35 o flynyddoedd ers iddo adael stad dai Maesgeirchen ym Mangor, bydd yr awdur a pherfformiwr yn dychwelyd yno i gynnal noson o gerddoriaeth.
Mae Iestyn Jones, sydd nawr yn byw yng Nghaedydd ac yn treulio ei amser yn perfformio mewn cynhyrchiadau fel Dr Who a Merlin, yn edrych ymlaen at gynnal noson i gefnogi’r clwb cymdeithasol ar y stad tai cyngor.
Bydd y gig yn rhan o daith genedlaethol o’r enw Deffro’r Deyrnas, sy’n gobeithio hybu cerddoriaeth Cymraeg dros y wlad.
Y gobaith yw rhoi ychydig o gymorth ariannol i Glwb Faesgeirchen, tra hefyd yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth Gymraeg yn y ddinas.
“Mae’r ardal yma angen ychydig o heulwen ac amser da. A ni fuasai unrhyw daith gerddorol yn gyflawn heb ymweliad â Maes-G. Pwy a ŵyr, efallai y gwneith ysbrydoli’r canwr mawr nesaf o Gymru!” meddai Iestyn Jones
“Mae ardaloedd sydd ddim yn dod at eu gilydd yn gymdeithasol angen rhyw sbarc, ychydig o adloniant a chyffro.”
Bydd Sen Segur yn perfformio, a hefyd rhai o grwpiau gorau lleol. Dywedodd Iestyn Jones y byddai gwestai arbennig yn cael ei ddatgelu ar y noson hefyd.
Bydd y gig yn cael ei gynnal yng Nghlwb Cymdeithasol Maesgeirchen ar 29 Mawrth, am 8yh.