Mae cynghorydd sir o Wynedd wedi ymddiswyddo o Gyngor Iechyd Cymunedol y gogledd ar ôl “colli hyder” yn y corff.

Mae Huw Edwards o Gaernarfon yn dweud fod penderfyniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i symud uned arbenigol i fabanod i Loegr yn “warthus”, ac mae’n anfodlon gyda’r cynlluniau ar gyfer gofal iechyd yn y gymuned.

Mae pwyllgor gwaith Cyngor Iechyd Cymunedol gogledd Cymru wedi rhoi eu sêl bendith nhw i’r rhan fwyaf o gynlluniau ad-drefnu’r Bwrdd Iechyd, ac ni fydd y mater yn cael ei gyfeirio at y Gweinidog Iechyd.

O Gymru i Lannau Mersi

Mae cau gwasanaeth arbenigol i fabanod yn Glan Clwyd a Maelor Wrecsam a’u symud i Lannau Mersi wedi bod yn bwnc llosg.

“I rieni o Wynedd a Môn bydd y daith i Arrowe Park yn feichus ac yn anymarferol,” meddai Huw Edwards.

“Credaf fod y Cyngor Iechyd wedi mynd yn groes nid yn unig i farn y cyhoedd, ond yn groes i’w cynlluniau nhw eu hunain,” meddai.

Pwyllgor Gwaith

Mae cyfanswm o 72 o aelodau gan Gyngor Iechyd Cymunedol y gogledd ond dim ond 15 aelod y pwyllgor gwaith wnaeth bleidleisio ar y mater Ddydd Mercher yn dilyn “trafodaeth fanwl am rai materion anodd ac emosiynol iawn.”

Nid oedd y penderfyniad wrth fodd Aled Roberts AC.

“Mae’r Cyngor Iechyd Cymunedol i fod i gynrychioli barn y bobol yng ngogledd Cymru ac mae wedi methu â gwneud hynny,” meddai .

“Mae’n codi’r cwestiwn beth yw’r pwynt cael Cyngor Iechyd Cymunedol?”

“Yn fy marn i roedd digon o reswm i gyfeirio israddio ein gwasanaethau newydd-anedig i’r Gweinidog Iechyd ac rwyf wedi fy syfrdanu nad ydyn nhw wedi gwneud hynny.”