Mae pennod gyntaf rhaglen gylchgrawn Cymraeg newydd wedi ei darlledu ar y We yr wythnos hon.
Owain Llŷr ac Ian Huw yw cyflwynwyr Yr Unig le di Dre, rhaglen wythnosol a fydd yn trafod straeon difyr yr wythnos yng Nghymru.
Bydd y rhaglen hanner awr o hyd yn cael ei darlledu ar wefan YouTube bob wythnos, a bydd cyfweliadau gyda gwestai, trafodaeth ar faterion cyfoes, cerddoriaeth ac eitemau doniol yn cael eu cynnwys.
Caiff y rhaglen ei chynhyrchu yng Nghaernarfon, a darlledir ar sianel y cwmni Gweledigaeth. Bwriad y gyfres yw rhoi blas ar ddiwylliant lleol a chenedlaethol Cymru, mewn ffordd newydd ac ysgafn.
Ymysg y gwestai yn rhifyn cyntaf y gyfres mae rhai o gerddorion unigryw Caernarfon, perfformiad byw gan Dion Jones yn y stiwdio, a chyfweliad difyr hefo ‘Cynghorydd y Werin’, Elis Roberts.
Mae’r cerddor a’r myfyriwr, Lawrence Huxham, hefyd yn cael ei gyfweld.
“Dwi’n meddwl bod Yr unig le di dre yn rhaglen ddiddorol iawn i bobol Cymru, yn enwedig pan mae’n cynnwys artistiaid lleol a chymeriadau difyr iawn,” meddai Lawrence Huxham.
“Mae’n wych cynnwys cerddoriaeth Gymraeg yn dilyn yr helynt hefo Radio Cymru yn ddiweddar. Mae’n beth da cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg mewn ffordd newydd. Byddai’n siwr o wylio’r gyfres.”