Mae 5,200 o Gymry Cymraeg yn gadael Cymru bob blwyddyn i fynd i fyw yn Lloegr, a’r flaenoriaeth er mwyn gwarchod yr iaith yw creu gwaith i’w cadw yng Nghymru.
Dyna fydd neges un o’r siaradwyr yng nghynhadledd gynta’r mudiad Dyfodol i’r Iaith ym Mhrifysgol Bangor heddiw.
Yn ôl Meirion Davies o Fenter Iaith Conwy mae angen Cymreigio’r gweithlu sy’n bodoli yng nghadarnleoedd yr iaith Gymraeg.
Gyda’r system addysg yn llwyddo’n o-lew i gynhyrchu siaradwyr Cymraeg, y cam nesaf ym mrwydr yr iaith fydd creu cyfleon gwaith ar ey cyfer, yn ôl Meirion Davies sy’n magu teulu ar lethrau Dyffryn Ogwen.
“Mae’n rhaid i ni adnabod, a chymryd mwy o ddifrif, y llefydd lle mae angen y Gymraeg yn y gweithle,” meddai’r ieithegydd sy’n magu telu yn Methesda.
“Nid yw’n gwneud synnwyr fy mod i’n ffonio Ysbyty Gwynedd a’i bod hi’n cymryd deg munud i mi esbonio enw fy nghartref a fy mhlentyn – mae angen cynyddu faint o’r gweithlu sy’n medru’r Gymraeg. Nid yw’n gwneud synnwyr [yng Ngwynedd] i gyflogi rhwyun sydd ddim yn deall Cymraeg.
“Yn lle dw i’n byw ym Methesda, mae’r rhan fwyaf o’r doctoriaid rwan yn Saesneg – un sydd yn siarad Cymraeg iaith gyntaf, ac un wedi dysgu.”
Mae angen creu trefn o ddenu meddygon sy’n medru’r Gymraeg i wasanaethu siaradwyr Cymraeg, meddai.
“Faint o weithiau fyddwch chi’n clywed am siaradwyr Cymraeg sy’n ddoctoriaid yn Lloegr? Nid yw pethau’n cael eu cydlynu mewn ffordd gall.”
Colledion
Yn ôl Dr Delyth Morris yn Welsh in the 21st Century yn 2010, roedd traean o’r bobol ifanc 15 oed oedd yn medru’r Gymraeg yn 1991 wedi symud i Loegr i fyw erbyn 2001.
Mi fyddai troi swyddi’r sector gyhoeddus yn rhai ‘Cymraeg hanfodol’ yn ei gwneud yn haws i ddenu pobol yn ôl i Gymru – cam hanfodol, medd Meirion Davies.
“Fedrwn ni ddim parhau i golli 3,000 o siaradwyr Cymraeg pob blwyddyn – mae o’n gyfystyr â 12 ysgol Gymraeg newydd gyda 250 o blant.”
Y cyfweliad yn ei gyfanrwydd yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.