Mae Cyngor Gwynedd eisiau cynyddu trethi 14% dros y bedair blynedd nesaf.
Ac yn ôl undeb y gweithwyr cyffredin ar y cyngor sir mae’r codiad yn rhannol er mwyn talu am godiadau cyflog i brif swyddogion.
Bu aelodau Unsain y cyngor y sir ar streic yn ddiweddar wedi iddi ddod i’r fei bod prif swyddopgion y cyngor i dderbyn miloedd o bunnau yn fwy o gyflog – ar adeg pan mae cyflogau gweithwyr cyffredin wedi eu rhewi ers 2009.
Mae diswyddiadau hefyd ar yr agenda yng Nghyngor Gwynedd, wrth iddyn nhw chwilio am arbedion o £3.6 miliwn dros y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Silyn Roberts, ysgrifennydd Unsain yng Ngwynedd:
“Gan fod y codiad i drethi yn uwch na chwyddiant, dw i’n synnu gweld bod rhai aelodau yn cael cynnydd mewn cyflog ar yr un pryd. Mae’n bur debyg bod y cynnydd yn cael ei adlewyrchu yn y codiad treth.”
Diogelu swyddi gweithwyr cyffredin
Ychwanegodd Silyn Roberts bod Unsain wedi ymrwymo i arbed swyddi, ac mai dyna’r nod pwysicaf yn y cyngor.
“Rydyn ni wedi cytuno i arbed gwerth diwrnod a hanner o gyflog, ac rydyn yn croesawu hyn os ydy o’n arbed swyddi. Mae’r codiad treth yn achosi dilema, gall y cynnydd gynnal swyddi, os oes llai o dreth yn amlwg bydd llai o swyddi.
“Ond mae’n bosib bod y codiad treth yng Ngwynedd yn adlewyrchu cynnydd mewn cyflogau i rai o staff y cyngor yn lle.”
Dywedodd Silyn Roberts y byddai Unsain yn cyfarfod eto ddydd Llun i drafod yr opsiwn o gynnal protest arall yn y cyngor.
Ymateb Cyngor Gwynedd
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:
“Ar 22 Ionawr, cyflwynwyd adroddiad cychwynnol ar strategaeth ariannol y Cyngor ar gyfer 2013/14 i Gabinet y Cyngor.
“Yn y cyfarfod hwn, cytunodd y Cabinet i argymell cynnydd o 3.5% yn Nhreth y Cyngor 2013/14. Mae’r argymhelliad hwn wedi ei ystyried gan Bwyllgor Archwilio’r Cyngor, a chyflwynwyd adroddiad pellach i’r Cabinet ar 19 Chwefror lle cytunodd y Cabinet ar argymhelliad terfynol ar gyfer lefel Dreth y Cyngor ar gyfer 2013/14.
“Bydd yr argymhelliad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar 28 Chwefror am benderfniad terfynol.”