Mae ’na obaith y bydd Cyngor Ynys Môn yn cael rhedeg ei hun unwaith eto, dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol, heddiw.
Dywedodd fod y Cyngor yn dal i wneud cynnydd da a’i fod yn gobeithio y bydd ei ymyrraeth yn dod i ben erbyn diwedd mis Mai.
Mae Comisiynwyr a benodwyd ganddo i redeg yr awdurdod ym mis Mawrth 2011, ar ôl beirniadaeth o’r modd roedd y cyngor yn cael ei redeg, wedi cymryd cam yn ôl o’r gwaith ers mis Hydref.
Dywedodd Carl Sargeant: “Mae gwleidyddiaeth y Cyngor dal i fod yn sefydlog ac yn aeddfed. Mae’r Cynghorwyr yn gwneud eu gwaith yn effeithiol, ac maen nhw wedi profi eu bod nhw’n ddigon abl i reoli’r gwaith o ddydd i ddydd.
“Rwy’n fwyfwy hyderus fod hwn yn newid parhaol ac mai atgof yn unig yw’r hen Ynys Môn.
“Rwy’n credu y gall Cyngor Môn ddatblygu i fod yn un o’r goreuon yng Nghymru.”
Mae’r Cyngor hefyd wedi derbyn pob ceiniog o’i grant perfformiad oddi wrth Lywodraeth Cymru, a hynny am y tro cyntaf ers blynyddoedd, meddai.
‘Heriau sylweddol o hyd’
Dywedodd Carl Sargeant: “Er bod heriau sylweddol i’w cael o hyd, fel y diffygion yng ngwasanaeth addysg y Cyngor, lle mae Bwrdd Adfer wedi’i sefydlu i fynd i’r afael â nhw, mae ‘na arwyddion clir fod y Cyngor wedi llwyddo i adfer y sefyllfa.
“Mae’n amlwg fod y Cyngor yn cael ei redeg yn effeithiol erbyn hyn, a bod y Cynghorwyr a’r swyddogion yn gweithio tuag at yr un nod: sicrhau adferiad hirdymor a gwell dyfodol i’r ynys.
“Mae’r cynnydd yma’n gwneud imi gredu bod y Cyngor bellach yn gallu rheoli ei waith ei hun a gwasanaethu pobl yr ynys yn dda, a’i fod yn barod i wneud hynny. Os bydd hyn yn parhau, yna byddaf yn dod â’m hymyriad i ben ddiwedd mis Mai.
“Cyn hynny, bydd angen imi gael fy argyhoeddi nad oes troi’n ôl i fod. Bydd angen i’r Cyngor barhau i ddangos ei fod am wella ar ôl yr etholiadau, a darparu gweinyddiaeth sefydlog ac effeithiol.”