Bydd Cyngor Sir Powys yn pleidleisio heddiw i benderfynu sut y byddan nhw’n arbed mwy na £30 miliwn dros y flwyddyn nesaf, er mwyn delio â diffyg ariannol.

Yng nghyfarfod misol y cyngor yn Llandrindod heddiw, mae cynghorwyr yn trafod cynlluniau sy’n cynnwys lleihau nifer y gweithlu, lleihau nifer y rheolwyr, a hefyd torri rhai gwasanaethau cyhoeddus.

Mae adroddiadau y gall hyd at 200 o swyddi fod dan fygythiad wrth i’r cyngor geisio creu gweithlu llai, ond nid oedd y cyngor am gadarnhau’r nifer yna heddiw.

Cyn y cyfarfod, dywedodd arweinydd y cyngor, David Jones: “Yn y pen draw bydd gennym weithlu mwy darbodus, ond un a fydd yn seiliedig ar waith mwy pwrpasol a fydd yn caniatáu i bobol fod yn fwy cynhyrchiol.

“Bydd y newidiadau hyn yn arwain at arbedion o £750,000.  Ni fydd y Prif Weithredwr na’r Cyfarwyddwr yn cael codiad cyflog, a bydd lleihad yn nifer y brif swyddi.

“Cyngor llai ond sy’n cael ei redeg yn fwy effeithlon fydd y canlyniad.”

Toriadau i wasanaethau

Mae’r cyngor yn ystyried cau canolfannau ieuenctid a mudiadau cymdeithasol, dod a diwedd i wasanaethau bws am ddim i fyfyrwyr dros 16, a gwneud toriadau sylweddol mewn darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi y bydd gwasanaethau hanfodol yn cael eu diogelu ac y byddai’r cynnydd mewn treth cyngor yn cael ei gyfyngu i 2.75%, ond mae ansicrwydd am ddyfodol nifer o wasanaethau yn y sir.

Dechreuodd y cyfarfod y bore ’ma, a dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod y “drafodaeth yn parhau.”