Mae byrgyrs gan gwmni o Lanfair-ym-Muallt wedi dangos olion o gig ceffyl medd yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Roedd tair sampl o gynnyrch y Burger Manufacturing Company yn cynnwys o leiaf 1% o gig ceffyl yn dilyn profion gan swyddogion Cyngor Sir Powys.

Mae profion pellach yn cael eu gwneud i sefydlu’n union faint o gig ceffyl sydd yn y byrgyrs ac i weld a ydyn nhw’n cynnwys unrhyw ôl o’r cyffur milfeddygol bute.

Mae’r Burger Manufacturing Company wedi tynnu’r cynnyrch dan sylw yn ôl ac yn cysylltu gyda chwsmeriaid.