Mae ‘Cuts Watch Cymru’ (CWC) yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried teuluoedd Cymraeg pan fydd y ‘treth ‘stafelloedd wely’ yn dod i rym ym mis Ebrill.
O dan y cynlluniau newydd fe fydd yn rhaid i denantiaid tai cyngor fyw mewn tŷ sy’n cyd-fynd a maint eu teulu yn union, a bydd unrhyw deulu sydd â llofft sbâr yn cael toriad i’w budd-daliadau.
Mae CWC, sy’n cynrychioli 30 o fudiadau ac elusennau yng Nghymru, yn dweud y bydd y rheolau newydd yn effeithio tenantiaid Cymru waethaf. Dywedon nhw y byddai 46%, o leiaf 40,000 o denantiaid, yn derbyn £600 yn llai’r flwyddyn ar gyfartaledd.
Dywedodd cadeirydd CWC, Victoria Winckler: “Mae’n iawn dweud wrth bobol am symud tŷ, ond mae ’na ddiffyg cartrefi i’w rhentu yng Nghymru. Ac os gallan nhw gael tŷ newydd, bydd rhaid i denantiaid dalu’r gost o symud a bydd unrhyw un gydag anabledd yn colli’r addasiadau i’w tai.”
“Gall y rheiny sy’n aros a derbyn y lleihad mewn budd-daliadau fethu a thalu rhent, ac mae’n bosib byddan nhw’n colli eu tai a bod yn ddigartref.”
Mae CWC yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod a thai gwag yn ôl ar y farchnad, ac i bob landlord gynnig mwy o dai llai.