Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi bod yn astudio effaith bacteria microbig ar rewlifoedd ac eira parhaol, er mwyn darganfod sut mae’r bacteria yn cynorthwyo i doddi’r rhew.

Mae newid yr hinsawdd wedi derbyn cryn sylw yn y cyfryngau ac wedi dod yn destun gwleidyddol pwysig dros y blynyddoedd diwetha’, oherwydd tystiolaeth bod rhewlifoedd a chapiau rhew yr Arctig a’r Antarctig yn toddi.  

Ond nawr, mae ymchwil y Brifysgol yn dangos nad cynnydd mewn tymheredd yn unig sy’n achosi’r dirywiad. 

Mae sbeciau bychain o fywyd sy’n ymddangos ar wyneb yr iâ yn cyfrannu at raddfa’r toddi.

Bacteria yn y rhew

Mae’r ymchwilwyr wedi darganfod bod haen denau o lwch sydd yn bodoli ar wyneb rhewlifoedd yn cynnwys bacteria, a drwy ddefnyddio technoleg laser i gyfri’r celloedd, roedd posib gweld faint o’r bacteria oedd yn byw ar y wyneb.

Er bod rhai o’r bacteria yn y llwch yn cael eu symud o’r wyneb bob blwyddyn, roedd y nifer oedd yn aros ar y wyneb yn barhaol yn achos pryder i’r ymchwilwyr.

“Mae hyn yn bryder oherwydd bod y microbau sy’n tyfu yn gludo’r llwch, y carbon a’r gronynnau bychain o graig at ei gilydd ac yn tywyllu wyneb yr iâ, sydd yn ei dro yn cynyddu effaith ynni’r haul wrth iddo doddi’r rhewlif,” meddai awdur yr adroddiad, Dr Tristram Irvine-Fynn.

“‘Tywyllu biolegol’ yw’r term yr ydyn ni wedi ei fabwysiadu am y ffenomen hon ac mae’n ymddangos ei bod yn factor o bwys a allai gyflymu’r raddfa y mae rhewlifoedd yn toddi.”

Mae’r ymchwil wedi ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn ‘Environmental Microbiology’, ond mae Dr Irvine-Fynn yn dweud bod angen ymchwil pellach i mewn i’r pwnc, i ddarganfod os ydy’r ffenomen yn digwydd dros y byd, a beth fydd ei effaith ar rewlifoedd a lefelau dŵr y byd.