Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw am weld lleihad yn nifer y bobol ifanc sy’n marw ar y ffyrdd yng Nghymru.

Dywed y Llywodraeth eu bod nhw am roi blaenoriaeth i’r maes hwn ar ôl casglu gwybodaeth am farwolaethau plant a phobol ifanc.

Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain fod 1,600 o blant yn marw bob blwyddyn o achos ffaeleddau’r gwasanaeth iechyd, a bod angen gwella’r cyfraddau marwolaeth ymhlith plant.

Ar un adeg, roedd cyfradd marwolaethau plant Prydain yn gyfartal â’r gyfradd yng ngweddill Ewrop, ond bellach mae ymhlith y gwaetha’.

Anafiadau i’r pen

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu addewid Llywodraeth Prydain i leihau nifer y marwolaethau, ac yn dweud eu bod nhw’n gweithio ar brosiectau eraill yn y maes.

“Mae Cymru yn cymryd rhan yn ymgyrch yr NSPCC i leihau’r peryg fod babanod yn marw neu’n cael eu hanafu’n ddifrifol o ganlyniad i anaf i’r pen sydd ddim yn ddamweiniol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Anafiadau i’r pen yw un o’r achosion mwyaf cyffredin dros farwolaeth neu anabledd ymhlith plant, a dywedodd llefarydd y Llywodraeth fod Prifysgol Caerdydd yn cynnal prosiect blwyddyn o hyd er mwyn edrych ar y maes.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu astudiaeth, trwy bartneriaeth i wella ansawdd gofal iechyd, i adolygu marwolaethau a salwch difrifol mewn plant.