Mae’r ystadegau diweddara’n dangos bod y nifer mewn gwaith yng Nghymru wedi disgyn o 14,000 ers y chwarter diwethaf, yn gwrthwynebu tuedd gweddill y DU.

Cyhoeddwyd y ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol heddiw, ac maent yn dangos bod diweithdra yn cynyddu yng Nghymru, tra bod y nifer dros Brydain yn lleihau.

Yng Nghymru:

  • Mae 8.6% o’r boblogaeth heb waith, o gymharu â chyfartaledd o 7.8% yn y DU;
  • Mae’r nifer mewn gwaith wedi disgyn 14,000, tra bod y nifer dros Brydain wedi cynyddu o 154,000;
  • Dros Brydain, mae 1.54 miliwn yn derbyn budd-dal diweithdra, sy’n lleihad o 12,500 ers y llynedd.

Mae angen twf

Mae Ysgrifennydd Cymru, David Jones wedi ymateb i’r ystadegau, gan ddweud eu bod yn dangos yr angen i barhau gyda’r gwaith o hybu twf o fewn busnesau Cymru.

“Er arwyddion calonogol dros y misoedd diwethaf, mae ystadegau llafur heddiw yn amlwg yn siomedig i Gymru,” meddai David Jones.

“Tra ’mod i’n croesawu’r lleihad mewn niferoedd sy’n derbyn budd-dâl, mae’r cynnydd mewn diweithdra yn dangos bod llawer o waith angen ei wneud i sicrhau twf.

“Mae cyhoeddiad Virgin Media bod 230 o swyddi newydd yn dod i dde Cymru yn dangos bod cyfleoedd i fusnesau dyfu, er y sefyllfa economaidd. 

“Mae’r ffigurau yma yn dangos pa mor bwysig yw hi i Lywodraethau Prydain a Chymru weithio gyda’i gilydd i ddenu mwy o fuddsoddiad a chyfleoedd i fusnesau yma, ac yn rhyngwladol.”

Beirniadu’r llywodraeth Lafur

Mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi beirniadu’r Llywodraeth, gan ddweud bod yr ystadegau yn dangos bod rhaid gwneud mwy i leihau niferoedd heb waith i lefelau gweddill y DU.

“Mae’r ffigurau yn dangos natur fregus economi Cymru, a’r angen parhaus am weithredu i sicrhau tyfiant,” meddai Nick Ramsay, llefarydd y Ceidwadwyr ar Fusnes.

“Mae’n achos pryder bod cyfradd anactifedd economaidd yng Nghymru wedi aros yn uwch na dros weddill y DU ers dechrau’r broses o ddatganoli.”

Dywedodd Eluned Parrott, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar yr economi, bod yr ystadegau yn argoeli yn dda ar gyfer economi Prydain, ond bod rhaid i’r llywodraeth sicrhau bod Cymru yn gwella ar yr un cyflymdra hefyd.