Theodore Huckle (llun Civitas)
Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru yn cyfadde’ fod y gwaith ar ei hôl hi o ddarparu gwefan Gymraeg o ddeddfau Cymru.
Fe ddylai’r gwaith fod wedi ei orffen erbyn dechrau’r flwyddyn, meddai Theodore Huckle. Yn awr, mae’n disgwyl y bydd yn barod “o fewn y misoedd nesaf”.
Roedd yn dweud ei fod wedi pwysleisio wrth yr Archif Genedlaethol, sy’n gyfrifol am wefan legislation.gov.uk pa mor bwysig oedd y gwaith ac y byddai’n parhau i bwyso arnyn nhw.
Mae’r fersiwn Gymraeg yn rhan o gynllun i sicrhau bod yr holl ddeddfau Cymreig ar gael yn hawdd i’r cyhoedd.
Mae’r deddfau i’w gweld yn y Gymraeg ar hyn o bryd ar wefan legislation.gov.uk ond hyd yma does dim gwefan Gymraeg ar gael.
Angen deddfau clir
Mewn datganiad yn y Cynulliad, fe ddywedodd Theodore Huckle ei bod yn allweddol fod deddfau ar gael, yn ddealladwy ac yn glir ac roedd y gwaith yn mynd yn ei flaen ar osod y cyfan ar-lein.
Mae hefyd yn pwysleisio y dylai deddfau newydd fod yn crynhoi’r sefyllfa gyfreithiol, yn hytrach na dim ond addasu hen ddeddfau Lloegr a Chymru neu’r Deyrnas Unedig.
Y nod, meddai, oedd creu un man lle’r oedd hi’n bosib gweld holl gyfreithiau Cymru heb orfod edrych yn rhywle arall.