Mae Tesco wedi dod ar waelod pôl piniwn o 11,000 o gwsmeriaid archfarchnadoedd, a Waitrose ar y brig.

Roedd 82% o aelodau Which? yn hapus gyda Waitrose ond dim on 45% oedd yn hapus gyda Tesco.

Fe gafodd cwmni archfarchnadoedd mwya’ gwledydd Prydain farciau isel am ei phrisiau, amgylchedd y siop, ansawdd y cynnyrch ffres a’r gwasanaeth i gwsmeriaid.

Archfarchnadoedd disgownt Aldi a Lidl a ddaeth yn ail a thrydydd gyda sgôr o 74% a 69%, gan guro cystadleuwyr mawr megis Morrisons (59%), Sainsbury’s (58%) ac Asda (53%).

Galw am brisiau clir

Yn ôl y pôl does dim yn gwylltio cwsmeriaid yn fwy na methu cymharu prisiau gwahanol gynnyrch am fod y mesuriadau’n wahanol. Roedd hyn yn codi gwrychyn 37% o gwsmeriaid.

Mae Richard Lloyd, cyfarwyddwr Which?, yn galw ar gwsmeriaid i “drin eu cwsmeriaid yn deg drwy gael gwared ar gynigion camarweiniol a chyflwyno prisiau sy’n glir a chyson ac yn seiliedig ar ur un unedau fel bod siopwyr yn gallu gweld y bargeinion go iawn.”