Athro wrth ei waith - llun llyfrgell (PA)
Mae’r Gweinidog Addysg wedi gwneud yn glir y bydd yna newidiadau yn y system o reoli ysgolion.
“Allwn ni ddim cario ymlaen fel yr ydyn ni ar hyn o bryd,” meddai Leighton Andrews, wrth i ddwy sir arall wynebu “mesurau arbennig” i wella eu perfformiad.
Er bod arolwg ar droed ar hyn o bryd, fe ddywedodd Leighton Andrews wrth Radio Wales y bore yma y byddai yna newid.
Fe fydd canlyniadau’r arolwg yn dod adeg y Pasg ac roedd yn disgwyl wedyn y byddai Cabinet y Llywodraeth yn penderfynu pa lwybr i’w ddilyn.
Ond, mewn cyfweliad gyda Good Morning Wales, fe roddodd y Gweinidog awgrym clir ei fod yn ffafrio creu consortia o nifer o awdurdodau.
Roedd hwnnw’n fodel da, meddai.
Dadl Leighton Andrews
Mae Leighton Andrews yn credu mai’r broblem yw maint yr awdurdodau addysg a bod y cyfan yn deillio o ad-drefnu llywodraeth leol yn 1994.
Bryd hynny, fe gafodd yr wyth sir fawr eu disodli gan 22 o awdurdodau unedol ac roedd hynny, meddai, wedi gwasgaru profiad a gallu mewn nifer o feysydd.
Roedd penderfyniadau ynglŷn â thechnoleg newydd hefyd wedi eu gwneud er lles y cynghorau yn hytrach na lles ysgolion, meddai.
“R’yn ni’n medi corwynt yr 1990au,” meddai.